The Fruit of the Spirit – Y Ffrwyth yr Ysbryd (CYMRAEG: Beibl Newydd gan yr Apocryffa)

CYMRAEG: Beibl Newydd gan yr Apocryffa

Galatians (Galatiaid) 5:22-23

22 Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.

23 Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.

The Armor of God – Arfwisg gan Dduw (CYMRAEG: Beibl William Morgan)

Armor of God 2d

CYMRAEG: Beibl William Morgan

Ephesians (Effesiaid) 6:10-18

10 Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef.

11 Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.

12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.

13 Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll.

14 Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder;

15 A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd:

16 Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall.

17 Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw:

18 Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint;

The Lord is my Shepherd – Yr Arglwydd yw fy Mugail (CYMRAEG: Beibl William Morgan)

jesusshepherd

CYMRAEG: Beibl William Morgan

Psalms (Salmau) 23

1 Yr Arglwydd yw fy Mugail; ni bydd eisiau arnaf.

2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog: efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel.

3 Efe a ddychwel fy enaid: efe a’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.

4 Ie, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf niwed: canys yr wyt ti gyda mi; dy wialen a’th ffon a’m cysurant.

5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr: iraist fy mhen ag olew; fy ffiol sydd lawn.

6 Daioni a thrugaredd yn ddiau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd: a phreswyliaf yn nhŷ yr Arglwydd yn dragywydd.

The Armor of God – Arfwisg gan Dduw (CYMRAEG: Beibl.Net)

Armor of God 2d

CYMRAEG: Beibl.Net

Ephesians (Effesiaid) 6:10-18

10 Dyma’r peth olaf sydd i’w ddweud: Byddwch yn gryf, a chael eich nerth gan yr Arglwydd a’r pŵer aruthrol sydd ganddo fe.

11 Mae Duw wedi paratoi arfwisg i chi ei gwisgo yn y frwydr. Byddwch chi’n gallu gwneud safiad yn erbyn triciau slei y diafol.

12 Dŷn ni ddim yn ymladd yn erbyn pobl. Mae’n brwydr ni yn erbyn y bodau ysbrydol sy’n llywodraethu, sef yr awdurdodau a’r pwerau tywyll sy’n rheoli’r byd yma; y fyddin ysbrydol ddrwg yn y byd nefol.

13 Felly gwisgwch yr arfwisg mae Duw’n ei rhoi i chi, er mwyn i chi ddal eich tir pan fydd pethau’n ddrwg, a dal i sefyll ar ddiwedd y frwydr.

14 Safwch gyda gwirionedd wedi ei rwymo fel belt am eich canol, cyfiawnder Duw yn llurig amdanoch,

15 a’r brwdfrydedd i rannu’r newyddion da am heddwch gyda Duw yn esgidiau ar eich traed.

16 Daliwch eich gafael yn nharian ffydd bob amser — byddwch yn gallu diffodd saethau tanllyd yr un drwg gyda hi.

17 Derbyniwch achubiaeth yn helmed ar eich pen, a newyddion da Duw, sef cleddyf yr Ysbryd, yn arf yn eich llaw.

18 A beth bynnag ddaw, gweddïwch bob amser fel mae’r Ysbryd yn arwain. Cadwch yn effro, a dal ati i weddïo’n daer dros bobl Dduw i gyd.

The Lord is my Shepherd – Yr Arglwydd ydy fy Mugail (CYMRAEG: Beibl.Net)

jesusshepherd

CYMRAEG: Beibl.Net

Psalms (Salm) 23

1 Yr ARGLWYDD ydy fy mugail i; mae gen i bopeth dw i angen.

2 Mae’n mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd; ac yn fy arwain at ddŵr glân sy’n llifo’n dawel.

3 Mae’n rhoi bywyd newydd i mi, ac yn dangos i mi’r ffordd iawn i fynd. Ydy, mae e’n enwog am ei ofal.

4 Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd, fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi. Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i.

5 Rwyt ti’n paratoi gwledd i mi ac mae fy ngelynion yn gorfod gwylio. Rwyt ti’n tywallt olew ar fy mhen. Mae gen i fwy na digon!

6 Bydd dy ddaioni a dy ofal ffyddlon gyda mi weddill fy mywyd. A byddaf yn byw eto yn nhŷ’r ARGLWYDD
am byth.

The Lord is my Shepherd – Yr Arglwydd yw fy Mugail (CYMRAEG: Beibl Newydd gan yr Apocryffa)

jesusshepherd

CYMRAEG: Beibl Newydd gan yr Apocryffa

Psalms (Y Salmau) 23

1 Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.

2 Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision, a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,

3 ac y mae ef yn fy adfywio. Fe’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.

4 Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi,
a’th wialen a’th ffon yn fy nghysuro.

5 Yr wyt yn arlwyo bwrdd o’m blaen yng ngŵydd fy ngelynion; yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn.

6 Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o’m bywyd, a byddaf yn byw yn nhŷ’r ARGLWYDD
weddill fy nyddiau.

The Armor of God – Arfwisg gan Dduw (CYMRAEG: Beibl Newydd)

Armor of God 2d

CYMRAEG: Beibl Newydd

Ephesians (Effesiaid) 6:10-18

10 Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.

11 Gwisgwch amdanoch holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol.

12 Nid â meidrolion yr ydym yn yr afael, ond â thywysogaethau ac awdurdodau, â llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.

13 Gan hynny, ymarfogwch â holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru gwrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi cyflawni pob peth, sefyll yn gadarn.

14 Safwch, ynteu, â gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron,

15 a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiau am eich traed.

16 Heblaw hyn oll, ymarfogwch â tharian ffydd; â hon byddwch yn gallu diffodd holl saethau tanllyd yr Un drwg.

17 Derbyniwch helm iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw.

18 Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd. I’r diben hwn, byddwch yn effro, gyda dyfalbarhad ym mhob math o ymbil dros y saint i gyd,

The Lord is my Shepherd – Yr Arglwydd yw fy Mugail (CYMRAEG: Beibl Newydd)

jesusshepherd

CYMRAEG: Beibl Newydd

Psalms (Y Salmau) 23

1 Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.

2 Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision, a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,

3 ac y mae ef yn fy adfywio. Fe’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.

4 Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a’th wialen a’th ffon yn fy nghysuro.

5 Yr wyt yn arlwyo bwrdd o’m blaen yng ngŵydd fy ngelynion; yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn.

6 Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o’m bywyd, a byddaf yn byw yn nhŷ’r ARGLWYDD weddill fy nyddiau.

God’s Love – Cariad Duw (CYMRAEG: Beibl William Morgan)

Jesus-and-Earth

CYMRAEG: Beibl William Morgan

John (Ioan) 3:16

16 Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.

The Ten Commandments – Y Deg Gorchymyn (CYMRAEG: Beibl William Morgan)

The Ten Commandments CC

CYMRAEG: Beibl William Morgan

Exodus 20:3-17

3 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.

4 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear.

5 Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;

6 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion.

7 Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer.

8 Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef.

9 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:

10 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth:

11 Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef.

12 Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

13 Na ladd.

14 Na wna odineb.

15 Na ladrata.

16 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

17 Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaethferch, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymydog.