CYMRAEG: Beibl Newydd gan yr Apocryffa
Ephesians (Effesiaid) 6:10-18
10 Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.
11 Gwisgwch amdanoch holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol.
12 Nid â meidrolion yr ydym yn yr afael, ond â thywysogaethau ac awdurdodau, â llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.
13 Gan hynny, ymarfogwch â holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru gwrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi cyflawni pob peth, sefyll yn gadarn.
14 Safwch, ynteu, â gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron,
15 a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiau am eich traed.
16 Heblaw hyn oll, ymarfogwch â tharian ffydd; â hon byddwch yn gallu diffodd holl saethau tanllyd yr Un drwg.
17 Derbyniwch helm iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw.
18 Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd. I’r diben hwn, byddwch yn effro, gyda dyfalbarhad ym mhob math o ymbil dros y saint i gyd, u.