CYMRAEG: Beibl Newydd gan yr Apocryffa
Psalms (Y Salmau) 23
1 Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.
2 Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision, a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,
3 ac y mae ef yn fy adfywio. Fe’m harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
4 Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi,
a’th wialen a’th ffon yn fy nghysuro.
5 Yr wyt yn arlwyo bwrdd o’m blaen yng ngŵydd fy ngelynion; yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew; y mae fy nghwpan yn llawn.
6 Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn bob dydd o’m bywyd, a byddaf yn byw yn nhŷ’r ARGLWYDD
weddill fy nyddiau.